Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 16 Gorffennaf 2013

 

 

 

 

 

Agenda

(147)v5

 

<AI1>

Bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau pan ddaw Pwyllgor o'r Cynulliad Cyfan i ben. Bydd y Pwyllgor o'r Cynulliad Cyfan yn cychwyn am 13.30

Pwyllgor o’r Cynulliad Cyfan

</AI1>

<AI2>

1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI3>

<AI4>

3 Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (90 munud)

</AI4>

<AI5>

4 Rheoliadau Credyd Cynhwysol (Darpariaethau Canlyniadol) (Gofal Plant, Tai a Thrafnidiaeth (Cymru) 2013 (15 munud) 

NDM5293 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Credyd Cynhwysol (Darpariaethau Canlyniadol) (Gofal Plant, Tai a Thrafnidiaeth) (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar  25 Mehefin 2013.

Dogfennau Ategol
Rheoliadau Credyd Cynhwysol (Darpariaethau Canlyniadol) (Gofal Plant, Tai a Thrafnidiaeth) (Cymru) 2013
Memorandwm EsboniadolSaesneg yn unig

</AI5>

<AI6>

5 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol - gohiriwyd   

NDM5259 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol sy’n ymwneud â’r trefniadau archwilio ar gyfer y Byrddau Draenio Mewnol y mae eu hardaloedd yn rhannol oddi fewn i Gymru, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

I weld copi o’r Bil ewch i:
Bill documents — Local Audit and Accountability Bill [HL] 2013-14 — UK Parliament

Dogfennau Ategol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol

</AI6>

<AI7>

6 Dadl: Y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2013-14 (30 munud) 

NDM5278 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth, 25 Mehefin 2013.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfennau Ategol
Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13
Papur Ymchwil: Cyllideb Atodol 2013-14 (Mehefin 2013) - Y Gwasanaeth Ymchwil

Addroddiad Y Pwyllgor Cyllid Craffu ar gynnig y Gyllideb Atodol ar gyfer 2013–2014

</AI7>

<AI8>

Cyfnod Pleidleisio

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 17 Gorffennaf 2013

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>